Swydd Ddisgrifiad (SDd)

Band 7

Proffil Grŵp - Uwch Gaplan (UG)

Swydd Ddisgrifiad - UG: Caplan sy’n Rheoli


Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-424-JD-B7. SC: Managing Chaplain v10.0

Math o Ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

11.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyflwyno

6 Tachwedd 2023

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad

Teitl y Swydd

UG: Caplan sy’n Rheoli

Proffil Grŵp

Caplan sy’n Rheoli

Lefel yn y Sefydliad

Rheolaeth Swyddogaethol

Band

7

Trosolwg o’r swydd

Swydd reoli yw hon sy’n darparu arweinyddiaeth ac yn hwyluso/galluogi gofal crefyddol a bugeiliol i garcharorion a staff o fewn sefydliad.

Crynodeb

Swydd anweithredol gyda chyfrifoldebau rheolwr llinell ar gyfer arwain a rheoli tîm caplaniaid aml-ffydd a chred yw hon. Er yn rôl rheoli yn hytrach na ffydd neu gred penodol, rhaid i ddeiliad y swydd gael eu cymeradwyo gan y Cynghorydd Ffydd a Chred HMPPS priodol.

Bydd deiliad y swydd yn darparu ar gyfer gofal crefyddol a bugeiliol carcharorion a staff yn eu ffydd neu gred eu hunain a gofal bugeiliol priodol i bawb, ni waeth beth yw eu ffydd neu gred.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau y cyflawnir PSI 05/2016 Ffydd a Gofal Bugeiliol i Garcharorion, neu ei ddogfen fframwaith polisi olynol a hefyd gwaith caplaniaeth ehangach o ran darparu cyrsiau ffydd a chyrsiau nad ydynt yn seiliedig ar ffydd. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y broses y mae’r Llywodraethwr a Phennaeth y Gaplaniaeth/Proffesiwn yn y pencadlys wedi eu sicrhau bod y polisïau hyn yn cael eu cyflawni.

Yn gyfrifol am arwain ar ddatblygu perthnasoedd gydag amrywiol grwpiau cefnogaeth a gwirfoddolwyr, a ble bo’n briodol, gweithredu fel Swyddog Cyswllt Ymwelwyr Swyddogol i’r Carchar.

Cymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd ysbrydol a’ch datblygiad eich hun, a neilltuo amser ar gyfer gweddïo/myfyrio, astudio ac encilio yn breifat.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

Rheolaeth Tîm a Phersonol

  • Yn gyfrifol am arwain a rheoli tîm caplaniaeth aml-ffydd a chred, gan sicrhau bod caplaniaid ar gael ac yn hygyrch i garcharorion, gweinyddiaeth effeithiol caplaniaeth, gan gynnwys rhestrau carcharorion ar gyfer digwyddiadau, diweddaru cofnodion ac ati a hybu polisi HMPPS ym mhob gweithgaredd ac ymddygiad; e.e. agendau amrywiaeth, cwrteisi, diogelwch a lleihau ail-droseddu.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod cwynion gan garcharorion (yn cynnwys hawliadau cyfreitha) sy’n berthnasol i’r tîm Caplaniaeth wedi derbyn sylw yn unol â’r polisi. Cynnal ymchwiliadau a gwaith gweinyddol mewn perthynas â digwyddiadau o wahaniaethu posibl ac adrodd ar y canfyddiadau.

  • Sicrhau bod caplaniaid a gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant angenrheidiol, cyfleoedd datblygu, mentora a chefnogaeth bersonol gan gynnwys yn dilyn digwyddiadau yn ogystal ag i wirfoddolwyr a’u meithrin yn eu cyfraniad.

  • Bod yn atebol am berfformiad y tîm Caplaniaeth a’r staff sy’n rhan ohono. Rheoli’r gwaith o gyflawni safonau ansoddol a meintiol, o fewn y


swyddogaeth gan ddilysu ac awdurdodi dogfennau fel sy’n briodol. Dadansoddi a gweithredu ar ddata sy’n berthnasol i Gaplaniaeth. Mynychu cyfarfodydd/byrddau perthnasol a chyfrannu’n weithredol naill ai fel cadeirydd neu aelod o dîm, cynhyrchu adroddiadau perthnasol fel bo’r angen a sicrhau bod holl ohebiaeth yn cael ymateb o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

Gofal Bugeiliol ac Addoli/Myfyrio

  • Darparu gofal bugeiliol a cheisio sicrhau lles ysbrydol carcharorion a holl staff, gan gynnwys caffael a dosbarthu llenyddiaeth, cyflenwadau a deunyddiau ffydd/cred priodol. Gyda chyfrifoldeb trefnu ac arwain addoliad/myfyrio ar gyfer cymuned ffydd/cred eich hun, cynllunio, trefnu ymweliadau ysbyty, priodasau, angladdau, gwasanaethau coffa, ble bo’n briodol. Cynorthwyo gyda throseddwyr sy’n cael eu rhyddhau i’r gymuned, y sawl sy’n cyflawni dedfrydau cymunedol neu fentrau cymunedol eraill a ariannwyd gan HMPPS drwy gytundeb.

  • Darparu cyngor ffydd/cred arbenigol o fewn sefydliad a bod yn gyfrifol am ei gefnogi i sicrhau bod grwpiau ffydd/cred yn arsylwi eu dyddiau a digwyddiadau sanctaidd crefyddol a chynllunio ac arwain gweithdai a chyfarfodydd gweddi/ffydd penodol.

  • Yn gyfrifol am sicrhau a darparu rhaglenni ymwybyddiaeth i garcharorion, gan gynnwys rhaglenni galar a rhaglenni carcharorion am oes, fel bo’n briodol, a hyfforddiant ymwybyddiaeth ffydd/cred i staff.

Perthnasoedd a Rheolaeth Rhanddeiliaid

  • Gweithio’n agos gyda Dalfa Ddiogelach i sicrhau bod gweithdrefnau marwolaeth yn y ddalfa, Asesiadau Gofal yn y Carchar a Gwaith Tîm (ACCT) a Lleihau Trais yn cael eu cyflawni yn unol â safonau HMPPS. Sicrhau a chyfrannu at gefnogi carcharorion i ddelio gyda galar drwy gysylltu gyda theuluoedd/carcharorion a thrydydd partïon eraill e.e. ysbytai, swyddfa’r Crwner.

  • Yn gyfrifol am sicrhau cyfraniad y tîm Caplaniaeth mewn materion ailsefydlu fel bo’n briodol ac ymgysylltu a datblygu cysylltiadau gyda chymuned ffydd/cred eich hun tuag at ailsefydlu carcharorion a’r strategaeth gyswllt gydag asiantaethau seiliedig ar ffydd/cred allanol i helpu gydag ailsefydlu carcharorion.

Rheoli Adnoddau a Chyllid

  • Cyfrannu at y ffordd mae’r sefydliad yn cyflawni safonau yn gyffredinol a bod yn atebol am berfformiad a chyflawni targedau sy’n ymwneud â’r gyllideb a’r Cynllun Pobl. Yn gyfrifol am arwain datblygiad polisi, gweithdrefnau ac ymarfer lleol a gweithredu polisi cenedlaethol gwasanaethau caplaniaeth. Sicrhau bod ymarfer Caplaniaeth presennol yn unol â pholisi (lleol a chenedlaethol). Cyfrannu at ddatblygu a chyflawni’r cynllun strategol a’r cynllun busnes tymor canolig/hir ar gyfer y sefydliad, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am weithredu o fewn eu swyddogaeth. Sicrhau bod yr holl asesiadau risg yn cael eu cynnal a bod staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb personol tuag at gydymffurfio o ran iechyd a diogelwch.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod camau gweithredu perthnasol sy’n deillio o’r Archwiliad Safonol, Cynlluniau Gweithredu Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi (HMIP), adroddiadau Ansawdd, Sicrwydd a Datblygiad (QuAD), arolygon Rheoli Ansawdd Bywyd Carcharor (MQPL), gan gynnwys cynlluniau gweithredu hunan archwilio lleol a strategaethau Ailsefydlu yn cael eu cyflawni.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y



swydd unwaith eto dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.

Ymddygiadau

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Arweinyddiaeth

  • Cydweithio

Cryfderau

Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8

Profiad hanfodol

Rhaid cwblhau hyfforddiant penodol i ddal y cymwysterau gofynnol ar gyfer y maes arbenigedd a amlinellir yn y swydd ddisgrifiad perthnasol.

Gofynion Cymhwysedd Ffydd/Cred (Ionawr 2022) Gweler rhestr lawn ar y Proffil Grŵp

  • Esgob, Offeiriad, Diacon Ordeiniedig Anglicanaidd, Brawd/Chwaer Crefyddol, Efengylwr Byddin yr Eglwys , Darllenydd (fel y nodir yn Canon E4 Canonau yr Eglwys yn Lloegr neu gyfatebol uniongyrchol mewn maes Anglicanaidd arall)

  • Bahai

  • Bwdhaeth

  • Caplan Cristnogol - Offeiriad Ordeiniedig neu’r Eglwys Rydd gyfatebol

  • Diacon Ordeiniedig Cristnogol, Brawd/Chwaer Crefyddol, Person Lleyg

  • Seientiad Cristnogol

  • Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf

  • Diacon heb ei Ordeinio yr Eglwys Rydd neu Berson Lleyg

  • Ordeiniedig yr Eglwys Rydd

  • Hindŵaeth

  • Dyneiddiwr

  • Jain

  • Tyst Jehofa

  • Iddewiaeth

  • Mwslimaidd

  • Uniongred

  • Pagan

  • Crynwr

  • Rastaffari

  • Offeiriad Ordeiniedig Catholig Diacon Brawd Chwaer Person Lleyg

  • Offeiriad Ordeiniedig Catholig

  • Siciaeth

  • Ysbrydegydd

  • Soroastriaidd

Profiad a sgiliau profedig mewn gofal bugeiliol ac arweinyddiaeth fugeiliol, gan gynnwys digwyddiadau argyfwng.

Gofynion

Technegol


  • Rhaid cwblhau hyfforddiant penodol i ddal y cymwysterau gofynnol ar gyfer y maes arbenigedd a amlinellir yn y swydd ddisgrifiad perthnasol.

  • Rhaid bod â chymhwyster addas a chymhwyster cydnabyddedig ffurfiol mewn diwinyddiaeth neu astudiaethau crefyddol a phrofiad fel bod y deiliad swydd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol (ble bo’n briodol) gan y gymuned ffydd/cred maent yn perthyn iddi.

Gallu

Cymwysterau Gofynnol

  • Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o chwe mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

a Lwfansau

37 awr yr wythnos.

Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cadarnhau Lwfans Oriau Gofynnol a byddant ond yn cael eu talu pan fydd hynny’n berthnasol.

Lwfans Oriau Gofynnol: fel rhan o’r rôl hon bydd gofyn i chi weithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd ac fe delir tâl ar y raddfa a gymeradwyir gan y sefydliad ar hyn o bryd yn ychwanegol at eich tâl sylfaenol i gydnabod hyn. Oriau anghymdeithasol yw’r oriau hynny sydd y tu allan i 0700 - 1900 o’r gloch dydd Llun i ddydd Gwener ac mae'n cynnwys gweithio gyda’r nos, drwy’r nos, ar benwythnosau a gwyliau Banc / Cyhoeddus.

OR-JES-424-JD-B7 : SC : Managing Chaplain v11.0