SWYDDOGOL









Swydd Ddisgrifiad (SDd) PS

Band PS 3

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf

Swydd Ddisgrifiad: Cydlynydd Mentor Cyfoedion





Cyfeirnod y Ddogfen PS JES 0134 Peer Mentor Co-ordinator v1.0 Math o Ddogfen Rheolaeth

Fersiwn 1.0

Dosbarthiad Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi 30 Medi 2024
Statws
Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Awdurdodwyd gan




Y Tîm Sicrwydd a Chymorth Gwerthuso Swyddi



Y Tîm Gwobrwyo


Tystiolaeth SDd
















SWYDDOGOL

PS JES 0134 Peer Mentor Coordinator v1.0

SWYDDOGOL

Swydd Ddisgrifiad


SWYDDOGOL



Teitl y Swydd

Cydlynydd Mentor Cyfoedion

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf

Band

3







Trosolwg o'r swydd

Rheoli a chynnal systemau i ddarparu gwasanaeth Mentora Cyfoedion cynhwysfawr yn lleol.


Mae'r rôl yn un rhanbarthol ac yn adrodd i'r rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf (EPOP). Bydd deilydd y swydd yn rheoli ac yn goruchwylio hyd at 15 o fentoriaid cyfoedion gwirfoddol gyda chyfrifoldeb dros recriwtio a chydlynu mentoriaid cyfoedion yn y Gwasanaeth Prawf.

Nid oes angen cymhwyster prawf ar ddeilydd y swydd ond bydd gofyn iddo fod â dealltwriaeth frwd o risg a materion gweithredol eraill.

Yn ddelfrydol, bydd gan ddeilydd y swydd brofiad bywyd

o'r system cyfiawnder troseddol.

Crynodeb

Bydd y Cydlynydd Mentor Cyfoedion yn sicrhau gwasanaeth Mentora Cyfoedion yn ei ardal leol.

Cysylltu â Darparwyr y Gwasanaeth Adsefydlu a Gomisiynir i nodi cyfleoedd i Fentoriaid Cyfoedion gymryd rhan a chael gwaith. Hyrwyddo'r Cynllun 'Going Forward into Employment' ar draws y rhanbarth a chyda Mentoriaid Cyfoedion.

Cefnogi'r Cynllun rhanbarthol (Ymgysylltu â Phobl ar Brawf (EPOP), gan gynnwys, gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddeall syniadau Pobl ar Brawf (PoP).


Yn y rôl, bydd angen cysylltu â Chyflenwr Contractau EPOP, fel bo'r angen. Gweithio'n hyblyg ar draws safleoedd gweithredol fel bo'r angen.

Yn y rôl, bydd angen dilyn datblygiadau mewn gwasanaethau, deddfwriaeth ac ymarfer sy'n berthnasol i Waith dan Arweiniad Cyfoedion, Ymgysylltu â Phobl ar Brawf a gwaith Ymgysylltu Defnyddwyr Gwasanaeth yn ehangach. Sicrhau y glynir wrth safonau uchel o ddiogelu a rheoli risg ac y gweithredir polisïau'r Gwasanaeth Prawf.

Cyfrannu at gynnal systemau gwaith diogel ac amgylchedd diogel.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd gofyn i ddeilydd y swydd ymgymryd â'r cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau a ganlyn:

  • Recriwtio, asesu a hyfforddi Mentoriaid

Cyfoedion newydd ar draws y rhanbarth.

  • Parhau i reoli a goruchwylio Mentoriaid Cyfoedion,

yn cynnwys cymorth llesiant, gwaith hyfforddi a datblygu i wella sgiliau a galluedd Mentoriaid Cyfoedion.

















































SWYDDOGOL

PS JES 0134 Peer Mentor Coordinator v1.0

SWYDDOGOL


  • Cynorthwyo i sefydlu Llwybr Datblygu a

Chynnydd i'r holl Fentoriaid Cyfoedion.

  • Gweithio gyda Mentoriaid Cyfoedion a chydweithwyr i ddatblygu, adolygu a chysoni'r trefniadau Mentora Cyfoedion ar draws y rhanbarth, gan weithredu'r cynllun 'Peer-Led Work: Conditions of Success'.

  • Cyflawni gweithgareddau dan Arweiniad Mentor Cyfoedion mewn amrywiaeth o leoliadau grŵp i gynnwys, lle bo'n briodol (nid yw'r rhestr yn gyflawn):

o Swyddfeydd prawf

o Eiddo Cymeradwy

o Sesiynau sefydlu Gwneud Iawn â'r

Gymuned a sesiynau grŵp

o Darparwyr allanol gwasanaethau merched

  • Adnabod rhagor o gyfleoedd i ddwyn i mewn

Mentoriaid Cyfoedion

  • Cysylltu gyda'r Gwasanaeth Adsefydlu a Gomisiynir

Bydd darparwyr yn adnabod cyfleoedd i ddwyn i mewn Mentoriaid Cyfoedion a rhoi gwaith iddynt.

  • Hyrwyddo'r cynllun 'Going Forward into Employment'

ar draws y rhanbarth a chyda Mentoriaid Cyfoedion.

  • Cefnogi'r cynllun rhanbarthol Ymgysylltu Pobl ar Brawf

(EPOP), gan gynnwys

  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gael cipolwg ar

syniadau Pobl ar Brawf (PoP)

    • Sefydlu Grwpiau Ffocws PoP lleol

o Sefydlu Panel Profiad Bywyd rhanbarthol

  • Cysylltu gyda Chyflenwr Contractau EPOP, fel bo'r gofyn

  • Rheoli a chynnal systemau i ddarparu gwasanaeth Mentora Cymheiriaid yn lleol.

  • Cynorthwyo i ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Datblygu Mentora Cymheiriaid rhanbarthol.

  • Mynd i Gyfarfodydd Tîm gyda swyddogion cyfatebol rhanbarthol.

  • Cyfrannu at ddatblygu llun cenedlaethol o'r gwaith Mentora

Cyfoedion, fel bo'r gofyn.

  • Hyrwyddo gwerth Mentoriaid Cymheiriaid a'r agenda

Ymgysylltu PoP i gydweithwyr a phartneriaid.

Mae'r dyletswyddau / cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio'r swydd fel ag y mae ar hyn o bryd ac nid ydynt yn gyflawn. Mae disgwyl i ddeilydd y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol o lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd angen ailedrych ar addasiadau sylweddol dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi a byddir yn eu trafod gyda deilydd y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu i gyflawni holl agweddau llafar y rôl yn hyderus trwy gyfrwng y Saesneg neu (lle nodir hynny'n benodol yng Nghymru) y Gymraeg.

























































SWYDDOGOL

PS JES 0134 Peer Mentor Coordinator v1.0

SWYDDOGOL

Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil



Ymddygiad

  • Gweld y Llun Mawr

  • Newid a Gwella

  • Arweinyddiaeth

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Cryfderau

Noder: argymhellwn eich bod yn dewis pedwar i wyth cryfder yn lleol - dewiswch o restr diffiniadau cryfder y Gwasanaeth Sifil ar y Mewnrwyd.

Profiad

  • Dymunol - Profiad bywyd o garchar a/neu brawf.

  • Dealltwriaeth o rôl y Gwasanaeth Prawf yn y System Cyfiawnder Troseddol ac mewn lleoliad amlasiantaethol.

  • Gwybodaeth am y ffactorau a dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ymgysylltiad â dioddefwyr.

  • Dealltwriaeth o reoli ac asesu risg, dealltwriaeth o weithdrefnau asesu a rheoli risg amlasiantaethol.

  • Tystiolaeth o allu i werthuso ymarfer.

  • Tystiolaeth o allu i ddarparu safbwynt ymarfer ar ddatblygu

polisïau

  • Profiad o weithio dan bwysau a chyflawni terfynau amser

tynn.

  • Profiad o weithio'n hyblyg fel aelod o dîm i gyflawni targedau perfformiad.

  • Profiad o gyfrannu at ddarparu systemau gweinyddol a gwybodaeth

  • Cyflawniadau y gellir eu dangos wrth reoli/cynorthwyo newid

a pheri gwelliant mewn ansawdd ac effeithlonrwydd.

  • Gallu i ddangos sgiliau TG datblygedig, gan gynnwys

tystiolaeth o allu i ddehongli a chymhwyso adroddiadau perfformiad.

  • Profiad o hyrwyddo amrywiaeth a natur cynhwysiant yn rhagweithiol, yn fewnol ac yn allanol.

  • Gallu i weithredu polisïau iechyd a diogelwch y gwasanaeth.

Gofynion Technegol


Gallu

  • Cyfathrebu'n hyderus ac yn effeithiol, ar lafar ac yn

ysgrifenedig.

  • Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu da, yn cynnwys bod yn gyfarwydd ag ysgrifennu adroddiadau ar lefel swyddogion uwch ac ysgrifennu gohebiaeth sy'n briodol ar bob lefel o lythrennedd.

  • Gallu wedi'i brofi i greu perthnasoedd gwaith effeithiol,
    mewn tîm a thrwy rwydweithio gyda sefydliadau eraill

i gyflawni nod.

  • Dangos capasiti i weithio'n annibynnol a'r gallu i gadw

pen dan bwysau.

  • Sgiliau TG da yn cynnwys profiad blaenorol o ddefnyddio Word, Excel ac Outlook mewn amgylchedd gweithio tebyg.























































SWYDDOGOL

PS JES 0134 Peer Mentor Coordinator v1.0

SWYDDOGOL

Cymwysterau Gofynnol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddo ddechrau yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf

chwe mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod

prawf os nad ydynt eisoes wedi gwneud cyfnod prawf o fewn yr HMPPS.

  • Mae'n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o

grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan yr HMPPS.













Oriau Gwaith (Oriau anghymdeithasol)Lwfansau

Gadewch yn wag

I'w ddefnyddio gan y Tîm JES yn unig
















































SWYDDOGOL

PS JES 0134 Cydlynydd Mentor Cyfoedion f1.0