OFFICIAL

EO Supervisor Dec25

Teitl Swydd a Gradd:

Goruchwyliwr Tîm - EO

Math o Gytundeb:

Parhaol


Amrediad Cyflog (yn dibynnu ar leoliad):

Cenedlaethol - £29,303 to £31,061


Nodwch os gwelwch yn dda, os nad ydych chi wedi ei gyflogi gan y Gwasanaeth Sifil ac yn gwneud mwy na’r isafswm uwchben ar hyn o bryd, os byddech yn llwyddiannus, bydd yr isafswm ar gyfer y radd hwn yn cael ei gynnig i chi yn dibynnu ar eich lleoliad.


Lleoliad:

Caerdydd


Adran:

Rheolaeth Achosion

Tîm:

Tîm Cymhwysiadau Sifil


Patrwm Gweithio:


Cefnogir y swydd gan bolisi gweithio hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn cynnwys cydweithwyr sy’n gweithio’n hyblyg, o bell (fel rhan o weithio hybrid, yn rhan amser neu drwy rannu swydd ayyb.

Os ydych chi’n gwneud cais am swydd rhan amser, nodwch er mwyn cyrraedd gofynion busnes bydd rhaid gweithio o leiaf 21 awr ac o leiaf 3 diwrnod yr wythnos.


Er mwyn cyflawni gofynion cyfreithiol, os rydych chi rhwng yr oedrannau 16-18 ac yn ymgeisydd llwyddiannus, bydd rhaid i chi gwblhau prentisiaeth ar ôl gorffen eich hyfforddiant cychwynnol.


Ymateb i:

Rheolwr Tîm

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

16eg Ionawr 2026

Yr Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol

Rydym yn un o asiantaethau gweithredol Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn gyfrifol am weinyddu’r gronfa cymorth gyfreithiol i ddarparu cyngor am gymorth cyfreithiol sifil a troseddol i bobol trwy gydol Cymru a Lloegr.

Ein pobl sydd yng nghanol ein hamcan i gyflawni rhagoriaeth. Yn cyflogi rhyw 1,200 o gydweithwyr ar draws Cymru a Lloegr, rydym yn teimlo’n falch bod gennym rhai o’r canlyniadau Arolwg Pobl gorau yn y Gwasanaeth Sifil.







Rheolaeth Achosion   


Swyddogaeth cyflenwi weithredol yr ACC yw’r Gyfarwyddiaeth Rheolaeth Achosion, ac mae ein staff yn sicrhau bod dros 500,000 o gleientiaid newydd bob blwyddyn yn cael mynediad i’r cyfiawnder sydd ei angen, a bod ei darparwyr yn cael ei thalu yn deg am ddarpariaeth cymorth gyfreithiol. Gyda staff wedi ei leoli ar nifer o safleoedd rydym yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n wynebu problemau cyfreithiol sifil a troseddol gan gynnwys achosion teulu, mewnfudiad, iechyd meddwl, llety ac achosion noddiant eithriadol.



Rheolaeth Achosion Sifil

Mae'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (ACC) yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau cymorth cyfreithiol gan gyfreithwyr, bargyfreithwyr a'r sector nid-er-elw ar gael i'r cyhoedd. Mae ein gwaith i weinyddu cymorth cyfreithiol yn hanfodol i weithrediad teg, effeithlon ac effeithiol y systemau cyfiawnder troseddol ac rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr cyfreithiol a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ehangach i gyflawni ein pwrpas. Mae'r ymrwymiad hwn wrth wraidd ein penderfyniadau o ddydd i ddydd a'n gwaith i wella gwasanaethau cymorth cyfreithiol. Mae ymgysylltiad ac ymrwymiad ein staff yn hanfodol i gyflawni ein pwrpas. Gyda'n gilydd rydym yn dangos bod yn agored, gonestrwydd ac ymrwymiad, ac wrth gwrs, i gyflawni canlyniadau.



Crynodeb Swydd

Yn briodol, mae’r person yn y rôl yn cefnogi Rheolwr y Tîm i oruchwylio’r tîm yn effeithiol, gan gynnwys dyrannu gwaith, coladu a dadansoddi data perfformiad, rheoli pobl a datblygiad y tîm dydd-i-ddydd.



Cyfrifoldebau Allweddol



Gwybodaeth, profiad a sgiliau hanfodol


  • Gwybodaeth gynhwysfawr am ffrydiau gwaith a phrosesau Ceisiadau Sifil

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol (ysgrifenedig a llafar)

  • Datrys problemau a gwneud penderfyniadau trwy ddefnyddio sgiliau dadansoddi a rhifedd.

  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol.

  • Gallu i gynnig adborth i eraill mewn modd adeiladol.

  • Dealltwriaeth dda o Microsoft Office.

Gwybodaeth, profiad a sgiliau dymunol


  • Profiad o Hyfforddi a Mentora

  • Ymwybyddiaeth o flaenoriaethau allweddol y sefydliad a sut maent yn cysylltu ac yn effeithio ar yr uned busnes penodol ac ar draws Rheolaeth Achosion cyfan

  • Dealltwriaeth o sicrwydd gwybodaeth

  • Ymwybyddiaeth Iechyd & Diogelwch

Manyleb berson

  • Rhywun sy’n mwynhau arwain tîm sy’n gweithio mewn amgylchedd gweithredol cyflym.



Dull Asesu

Proses Ymgeisio

Er mwyn ymgeisio, anfonwch ddatganiad cyfaddasrwydd sy’n dangos sut rydych yn cyrraedd y meini prawf hanfodol mewn dim mwy na 750 o eiriau.


Dylai eich datganiad ddangos eich gallu i wneud pob un o’r meini prawf hanfodol a restrir. Gallwch ddefnyddio enghreifftiau er mwyn helpu i gryfhau eich cais.


Plîs nodwch nad oes angen CV arnom, a dim ond Datganiad Addasrwydd sydd ei angen ar gyfer eich cais. Gall y geiriad ar yr hysbyseb hon awgrymu bod angen cwestiwn am Brofiad hefyd, ond nid yw hyn yn angenrheidiol.


Proses Cyfweliad/Asesiad

Os ydych yn llwyddiannus trwy’r cam ymgeisio, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad/canolfan asesu mewn person neu ar Microsoft Teams, lle byddwch yn cael eich asesu yn ôl y cryfderau a phrofiadau canlynol, sy’n ofynnol am y rôl:


Datblygu Eich Hun ac Eraill

  • Nodi bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth eich hun a'r tîm

  • Gosod a bodloni amcanion datblygu yn gyson

  • Chwilio am gyfleoedd dysgu

  • Cefnogi cynlluniau datblygu'r holl gydweithwyr, gan gydnabod sut y gall amrywiaeth profiad/cefndir helpu i feithrin diwylliant tîm cynhwysol

  • Ystyried cyfraniadau holl aelodau'r tîm a dirprwyo gwaith i gynorthwyo dysgu a datblygiad pawb

  • Annog a gwrando ar adborth datblygiadol gan gydweithwyr


Arweinyddiaeth

  • Dangos balchder ac angerdd dros eich gwaith, ac ymrwymiad positif, hollgynhwysol gyda’ch tîm

  • Deall eich cyfrifoldebau a dangos ymwybyddiaeth o effaith ehangach eich gweithredoedd

  • Gosod esiampl a hyrwyddo gweithle hollgynhwysol, gan ddelio gyda phroblemau o ran iaith ac ymddygiad anaddas pan eu bod yn codi, gan gynnwys achlysuron o anffafriaeth neu gamweinyddiad

  • Rhoi clod i gydweithwyr a hapddalwyr lle fo’n briodol


Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cymryd cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau effeithiol a teg, mewn agwedd amserol

  • Dadansoddi ac ymchwilio gwybodaeth bellach er mwyn cefnogi penderfyniadau

  • Siarad â phobl berthnasol er mwyn derbyn cyngor a gwybodaeth pryd ydynt yn ansicr o sut i barhau

  • Esbonio sut cafodd penderfyniadau eu cyrraedd mewn ffordd glir a gryno, ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • Dangos yr ystyriaeth o bob opsiwn, costau, risgiau a goblygiadau ehangach, gan gynnwys anghenion amrywiol defnyddwyr terfynol ac unrhyw ofynion hygyrchedd

  • Eich profiad o weithredu, hybu, neu ddeall polisi amrywiaeth a chynhwysiant


Ar gyfer y radd/rôl hon byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o’r termau Amrywiaeth a Chynhwysiant a gallu esbonio pam maen nhw’n bwysig iddynt ac i le maen nhw’n gweithio. Bydd enghreifftiau o gamau y maent wedi'u cymryd (yn y gwaith neu'r tu allan iddi) i gofleidio amrywiaeth (e.e., cynyddu dealltwriaeth) neu wella cynhwysiant i eraill yn cynyddu cryfder eu hateb.


Bwriadwn gyflawni’n rhestr fer yr wythnos wedi 19/1/2026

Cynhaliwn gyfweliadau yr wythnos wedi 9/2/2026

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cyfle hwn, cysylltwch â - Abbey Ross Abbey.Ross1@justice.gov.uk


Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)



Fel rhan o’n hymroddiad i uniondeb a gonestrwydd, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd sicrhau bod y profiadau, cyflawniadau, ac esiamplau sy’n cael eu rhannu yn eich cais yn llwyr eich rhai chi.

Peidiwch ddefnyddio offer AI er mwyn ffugio neu efelychu profiadau personol os gwelwch yn dda. Tra bod AI yn gallu cynorthwyo gyda fformatio a sillafu, ni ddylid cael ei defnyddio i gynhyrchu straeon, sgiliau, neu gyflawniadau dydych chi heb fyw neu ennill.

Gweler ein canllaw ymgeiswyr am fwy o wybodaeth ar ddefnydd addas ac anaddas os gwelwch yn dda.



Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant



Mae'r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent lle bynnag y ceir
hyd iddo. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil.

Fel sefydliad hyderus i anabledd, byddwn yn cynnig cyfweliad warantus i ymgeiswyr gydag anabledd sydd yn cyfarfod y meini prawf hanfodol am y rôl. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, diffiniad anabledd yw amhariad meddyliol neu ffisegol sydd yn cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gwblhau tasciau dydd-i-ddydd sydd wedi parhau, neu disgwylir bydd yn parhau, am o leiaf 12 mis.

Os ydych yn ymateb i swydd o fewn yr Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol ac eisiau cael eich ystyried o dan y rhaglen gwarantu cyfweliad, nodwch hyn yn eich cymhwysiad os gwelwch yn dda a gad i ni wybod os rydych chi angen unrhyw addasiadau rhesymol yn ystod y proses dethol neu sifftio.

Nod yr Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol yw adeiladu mudiad sy’n agored a hollgynhwysol, ac sydd wir yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywioldeb ei weithlu - un sy’n adlewyrchu ac yn deall anghenion y gymdeithas amrywiol rydym yn gwasanaethu, heb ystyried cefndir cymdeithasol, rhyw, oed, hil, rhywioldeb, credoau, anableddau neu salwch hirdymor, neu unrhyw gyfrifoldebau gofalu.



Addasiadau Rhesymol

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Os oes gennych anabledd neu gyflwr hirdymor (er enghraifft dyslecsia, pryder, awtistiaeth, cyflwr symudedd neu golli clyw) a'ch bod angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i'ch cefnogi drwy'r broses recriwtio, rhowch wybod i ni drwy ychwanegu'r wybodaeth at y system ymgeisio neu anfon e-bost LAARecruitment@justice.gov.uk ar ôl i chi wneud cais fel y gallwn drafod opsiynau gyda chi.




Gweithdrefn cwynion

Os oes gennych unrhyw gwyn ynglŷn â’r gweithgaredd recriwtio hwn, rhannwch eich pryderon drwy ebostio LAARecruitment@justice.gov.uk i ddechrau. Rydym yn bwriadu ateb unrhyw gwyn o fewn 10 diwrnod gweithio.

Os ydych yn anfodlon â'n hymateb, byddwn yn anfon eich cwyn ymlaen at Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil, corff annibynnol, i'w hadolygu.







OFFICIAL