Proffil y Grŵp: Mentor
Band 3
|
Cyfeirnod y Ddogfen |
HMPPS OR T 41 GP : Mentor v10.0 |
|
Math o Ddogfen |
Rheoli |
|
Fersiwn |
10.0 |
|
Dosbarthiad |
Swyddogol |
|
Dyddiad Cyhoeddi |
17 Hydref 2024 |
|
Statws |
Gwaelodlin |
|
Cynhyrchwyd gan |
Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi |
|
Awdurdodwyd gan |
Y Tîm Gwobrwyo |
|
Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd |
|
Proffil y Grŵp
|
Enw Proffil y Grŵp |
Mentor |
|
Lefel yn y Sefydliad |
Cyflenwi |
|
Band |
3 |
|
|
|
|
Trosolwg |
Mae hon yn swydd anweithredol mewn sefydliad.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, gwybodaeth a sgiliau i garcharorion mewn gweithdai nad ydynt yn rhai arbenigol, lle nad oes cymwysterau’n cael eu darparu ac nad yw deiliad y swydd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi carcharorion hyd at y lefel ofynnol i ennill cymwysterau.
Nid yw’r disgrifiad swydd hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan ddeiliaid swyddi mewn gweithdai arbenigol, gan na fydd gofyn i ddeiliad y swydd fod yn gymwys mewn maes arbenigol na hyfforddi carcharorion hyd at y lefel ofynnol i ennill cymwysterau. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid defnyddio Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol.
Er mai swydd anweithredol mewn sefydliad heb unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell yw hon, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau dros reoli’r gweithdy a charcharorion.
Mae hon yn swydd sy’n cylchdroi. |
|
Nodweddion |
Dyma rai o’r tasgau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r Proffil Grŵp hwn:
|
|
|
Agor a llenwi ffurflenni ACCT (Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm), VRIR (Adroddiadau Digwyddiadau Lleihau Trais) ac Adroddiadau SIR (Gwybodaeth am Ddiogelwch) fel y bo’r angen, a chyfrannu at adroddiadau IEP (Cymhellion a Breintiau a Enillir).
|
|
Disgrifiadau Swydd sy’n berthnasol i’r Proffil Grŵp hwn |
Ar ôl cael y swydd, bydd deiliad y swydd yn cael ei baru â disgrifiad swydd. Mae rhestr enghreifftiol wedi’i hatodi isod. Mae hon yn swydd sy’n cylchdroi (cyfeiriwch at y disgrifiad swydd unigol), felly gallai deiliad y swydd gyflawni rôl o sawl disgrifiad yn ystod ei yrfa.
|
|
Cymhwysedd Sylfaenol |
Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.
|
|
Sgiliau Hanfodol/Cymwysterau/ Achrediad/Cofrestru |
Dim |
|
Oriau Gwaith a Lwfansau |
Wythnos waith 37 awr (safonol). Gweithio Orau Anghymdeithasol Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cadarnhau’r trefniadau Gweithio Oriau Anghymdeithasol, a dim ond pan fydd hynny’n berthnasol y bydd tâl am hynny:
Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a bydd taliad ar gyfradd gymeradwy gyfredol y sefydliad yn cael ei ychwanegu at eich cyflog sylfaenol i gydnabod hyn. Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau sydd ddim rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus. |
|
Ymddygiadau |
|
|
Cryfderau |
Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8. |
|
Profiad Hanfodol |
|
|
Gofynion Technegol |
D.S dyma’r gofynion technegol ar gyfer proffil y grŵp, edrychwch ar y disgrifiad swydd unigol sy’n ymwneud â phroffil y grŵp hwn i weld unrhyw ofynion sy’n benodol i’r swydd a’u hychwanegu os oes angen.
Amh. |
|
Gallu |
|
HMPPS OR T 41 GP : Mentor v10.0