Swydd Ddisgrifiad (SDd) - Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS)

Band 6 NPS

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Swydd Ddisgrifiad: Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy


Cyfeirnod y Ddogfen

NPS-JES_0042_Band Cyflog 6 Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy_v3.0

Math o Ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

3.0

Dosbarthiad

Annosbarthedig

Dyddiad Cyhoeddi

08/07/19

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Pennaeth y Grŵp

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd



Swydd Ddisgrifiad - NPS

Teitl y Swydd

Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Band

6

Trosolwg o’r swydd

Rôl reoli yw hon sy’n adrodd i Bennaeth Diogelu’r Cyhoedd, sy’n gyfrifol am reoli clwstwr o Safleoedd Cymeradwy (AP) o fewn ardal.

Crynodeb

Darparu rheolaeth ac arweinyddiaeth o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS) gyda chyfrifoldeb am adnoddau, cyfeiriad strategol a rheolaeth weithredol clwstwr o Safleoedd Cymeradwy.

Cynnig cymorth ac ymgymryd â chyfrifoldebau mewn Clystyrau eraill o safleoedd cymeradwy yn ystod cyfnodau o absenoldeb.

Cymryd rhan yn y rota Uwch Reolwyr ar alwad y tu allan i oriau

Cynrychioli’r Dirprwy Gyfarwyddwr neu Bennaeth Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer Safleoedd Cymeradwy gyda rhanddeiliaid allanol a staff eraill

Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y NPS, bydd rhaid i ddeiliad y swydd arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall sut maent yn berthnasol i’r gwaith mae’n ei wneud.

Rhaid i ddeiliad y swydd lynu at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Dangos arweiniad ac arloesedd wrth weithredu strategaeth a chyflawni gweithredol.

  • Cyflawni targedau perfformiad ac ansawdd

  • Rheoli’r gyllideb ddatganoledig ar gyfer y Clwstwr safleoedd cymeradwy a rheoli adnoddau'n effeithiol

  • Dangos y gallu i fodloni gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd ar draws ardaloedd daearyddol

  • Dangos y gallu i reoli rheolwyr canol / staff eraill a chysylltiadau gweithwyr ar draws y Clwstwr Lleoliadau Oedolion yn unol â pholisïau HMPPS

  • Sicrhau bod staff safleoedd cymeradwy yn cyfrannu at gynlluniau rheoli risg ac yn eu cefnogi, gan gynnwys ymgysylltu â MAPPA

  • Pan fo angen awdurdodi neu gynnwys uwch reolwyr, rhoi cyngor a gwneud penderfyniadau ar reoli troseddwyr risg uchel , sicrhau bod lleoliadau priodol ar gael o fewn ystâd y safleoedd cymeradwy

  • Fel aelod o’r Tîm Rheoli Safleoedd Cymeradwy, chwarae rôl weithredol yn rheolaeth gorfforaethol yr NPS yn ôl y gofyn Cymryd y cyfrifoldeb arweiniol am brosiectau/portffolios penodol

  • Darparu rôl arweiniol a rhoi cyfeiriad ar gyfer gwaith gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Cynrychioli’r NPS fel sy'n briodol i'r rôl

  • Gweithredu strategaeth gydraddoldeb HMPPS

  • Rheoli a chymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau is-adrannol.

  • Yn atebol am iechyd a diogelwch ar gyfer y Clwstwr Safleoedd Cymeradwy

  • Yn atebol am gyfrifoldebau ystadau ar gyfer y Clwstwr Safleoedd Cymeradwy

  • Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant a diogelu oedolion yn unol â chyfrifoldebau statudol yr NPS a pholisïau asiantaethol

  • Sicrhau bod buddiannau a phryderon y gymuned leol i bob adeilad cymeradwy yn cael ymateb priodol.

  • Ymateb yn effeithiol i’r risgiau gweithredol i’r Safleoedd Cymeradwy a risgiau sefydliadol i’r NPS yn ehangach a gyflwynir gan ddigwyddiad posibl/gwirioneddol arwyddocaol.

  • Dangos sgiliau modelu pro-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau cymdeithasol yn gyson a herio ymddygiad ac agweddau gwrthgymdeithasol

  • Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd yr NPS a HMPPS


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â Deiliad y Swydd yn y lle cyntaf.

Bydd rhaid gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.

Ymddygiadau

  • Arweinyddiaeth

  • Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill

  • Cydweithio

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8

Profiad hanfodol

  • Profiad sylweddol ar lefel rheolaeth ganol

  • Profiad sylweddol o reoli staff a rheoli newid, yn cynnwys goruchwylio, dyrannu adnoddau, gwerthuso ac annog

  • Profiad o fonitro perfformiad mewn meysydd cyfrifoldeb yn erbyn targedau a bennir ymlaen llaw, pennu targedau lleol a rhoi gwelliannau angenrheidiol ar waith.

  • Profiad o gymryd rhan mewn prosesau comisiynu a chaffael neu reoli contractau.

  • Profiad o reoli Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb

  • Profiad o weithio gydag asiantaethau a rhanddeiliaid lleol allweddol i ddatblygu perthynas gref â hwy

  • Paratoi adroddiadau ysgrifenedig ar lefel uchel

  • Profiad o werthuso ymarfer

Gofynion technegol

Fframwaith Cymwysterau Prawf - Diploma i Raddedigion/Gradd Anrhydedd mewn Cyfiawnder Cymunedol wedi'i integreiddio â Diploma lefel 5 mewn Ymarfer Gwaith Prawf

Neu gymhwyster a gydnabyddid ar adeg cymhwyso gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn unol ag Adran 10 Deddf Rheoli Troseddwyr 2007. Cydnabuwyd yn flaenorol bod y cymwysterau canlynol a enillwyd yng Nghymru a Lloegr yn darparu cymhwysedd o'r fath:

  • Diploma mewn Astudiaethau Prawf,

  • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (gydag opsiwn Prawf)

  • CQSW (gydag opsiwn Prawf)

Sgiliau TG da, gan gynnwys tystiolaeth o'r gallu i ddehongli adroddiadau perfformiad a’u rhoi ar waith

Gallu

Cymwysterau Gofynnol

?

Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.


?

Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf i HMPPS.


?

Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

a Lwfansau

37 awr

Gwneir taliadau ychwanegol am waith y tu allan i oriau

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Arweinyddiaeth

Profiad sylweddol ar lefel rheolaeth ganol

Fframwaith Cymwysterau Prawf - Diploma i Raddedigion/Gradd Anrhydedd mewn Cyfiawnder Cymunedol wedi'i integreiddio â Diploma lefel 5 mewn Ymarfer Gwaith Prawf

Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill

Profiad sylweddol o reoli staff a rheoli newid, yn cynnwys goruchwylio,

dyrannu adnoddau, gwerthuso ac annog

Neu gymhwyster a gydnabyddid ar adeg cymhwyso gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn unol ag Adran 10 Deddf Rheoli Troseddwyr 2007.

Troseddwyr 2007. Cydnabuwyd yn flaenorol bod y cymwysterau canlynol a enillwyd yng Nghymru a Lloegr yn darparu cymhwysedd o’r fath:

  • Diploma mewn Astudiaethau Prawf,

  • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (gydag

opsiwn Prawf)

  • CQSW (gydag opsiwn Prawf)

Cydweithio

Profiad o fonitro perfformiad ym maes ei gyfrifoldeb yn erbyn

Targedau a bennwyd ymlaen llaw, gan osod targedau lleol a gweithredu gwelliannau

angenrheidiol

Sgiliau TG da, gan gynnwys tystiolaeth o'r gallu i ddehongli adroddiadau perfformiad a’u rhoi ar waith

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Profiad o gymryd rhan mewn prosesau comisiynu a chaffael neu reoli contractau.

Cyflawni ar Gyflymder

Profiad o reoli Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Gweithio gydag asiantaethau a rhanddeiliaid lleol allweddol i ddatblygu perthynas

gref â hwy

NPS-JES_0042_Band Cyflog 6 Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy_v3.0

Paratoi adroddiadau ysgrifenedig ar lefel uchel

Profiad o werthuso ymarfer

NPS-JES_0042_Band Cyflog 6 Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy_v3.0

NPS-JES_0042_Band Cyflog 6 Rheolwr Ardal Safleoedd Cymeradwy_v3.0