Swydd Ddisgrifiad
A ydych chi’n berson cyfeillgar, cynorthwyol a brwdfrydig?
Mae GLlTEF yn chwilio am unigolion deinamig gyda sgiliau cyfathrebu gwych ac agwedd bositif i ymuno â’n timau beilïaid.
Mae beilïaid yn gyfrifol am orfodi dyfarniadau sifil a dyfarniadau meddiannu ac am gyflwyno amrywiol ddogfennau cyfreithiol, megis deisebau ysgaru, ac olrhain ac arestio unigolion sydd ar warantau traddodi, sy’n cynnwys mynd i’r llys, a chludo carcharorion yn ôl ac ymlaen o’r carchar. Mae gofyn i feilïaid deithio i gartrefi a busnesau ledled yr ardal leol a’r ardal gyfagos, asesu nwyddau personol er mwyn sicrhau taliad ar gyfer gwarantau sydd heb eu talu a meddiannu eiddo, lle mae Barnwr wedi gorchymyn hynny, yn ogystal â delio â dyletswyddau gweinyddol eraill.
Mae hon yn swydd heriol a bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddeilio ag unigolion sydd mewn sefyllfa fregus, a datrys problemau drwy gyfeirio at ganllawiau a chyfarwyddiadau cynhwysfawr. Er bod natur y swydd yn golygu bod beilïaid yn treulio cyfran o’r diwrnod yn gweithio ar eu pen eu hunain, maent yn rhan o dîm ehangach sydd â chefnogaeth reoli er mwyn sicrhau y cyrhaeddir targedau a safonau.
Patrwm gweithio: Er bydd deiliad y swydd yn cael ei benodi i swyddfa benodol, efallai y bydd angen hyblygrwydd i weithio ar sail ad hoc mewn swyddfeydd GLlTEF lleol eraill. Oherwydd natur y gwaith, nid oes patrwm gweithio penodol, ond efallai y bydd gofyn i chi weithio rhai nosweithiau a boreau Sadwrn fel rhan o'ch wythnos waith
Gall dyletswyddau gynnwys:
Cymryd nwyddau lle bo rhaid er mwyn bodloni dyfarniadau sydd heb eu talu a meddiannu eiddo pan fydd hyn wedi cael ei orchymyn.
Llenwi gwaith papur perthnasol a chynhyrchu derbynebau cywir am arian a dderbyniwyd.
Cyflwyno gorchmynion/gwarantau traddodi.
Cyflwyno dogfennau Llys â llaw.
Mewnbynnu data ac ymateb i negeseuon e-bost.
Cludo carcharorion i'r Llys a mynychu’r llys fel sy’n ofynnol.
Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol
Prosesu taliadau arian parod gan dalu sylw i briodoldeb a diogelwch yr arian.
Delio gydag ymholiadau wyneb yn wyneb, drwy'r post a dros y ffôn.
Felly, beth sydd ei angen arnoch?
Trwydded yrru lawn sy’n rhoi’r hawl barhaol i chi yrru yn y Deyrnas Unedig.
Mae bod â cherbyd dibynadwy yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Bydd rhaid i chi weithiau ddefnyddio cyfrifiadur (i fewnbynnu data, ysgrifennu e-byst, er enghraifft) ac felly mae hefyd yn angenrheidiol fod gennych sgiliau cyfrifiadurol fydd yn eich galluogi chi wneud hyn.
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog.
Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid.
Y gallu i gael sgyrsiau anodd.
Y gallu i ddarparu gwybodaeth yn gyflym ac yn glir.
Gwir angerdd i gefnogi a helpu pobl.