Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Teitl y Swydd: Swyddog Cymorth Gweinyddol Cyfreithiol
Ystod Cyflog: AO
Cefndir
Mae staff gweinyddol da sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog yn hanfodol i sicrhau bod y Llysoedd, y Tribiwnlysoedd a swyddfeydd eraill yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn gweithredu’n effeithiol. Mae'r rhan fwyaf o'r staff o fewn GLlTEF yn cael eu cyflogi mewn rolau gweinyddol. Mae GLlTEF yn gweithredu egwyddorion LEAN a thechnegau gwelliant parhaus i ddarparu gwasanaeth cwsmer o safon uchel.
Prif bwrpas y swydd
Darparu cefnogaeth weinyddol i’r ynadaeth ar draws Cymru. Bydd hyn yn cynnwys:
Cefnogaeth i Bwyllgorau Recriwtio Ymgynghorol - gan gynnwys recriwtio ynadon, hwyluso cyfweliadau ar-lein drwy Teams a gweithio gyda’r porth recriwtio ar-lein ‘Affinix’. Bydd deiliad y swydd hefyd yn prosesu ymddeoliad/ymddiswyddiad ynadon ac ati, gyda’r angen i ddefnyddio’r porth Rota Ynadon ac Adnoddau Dynol Barnwrol.
Cefnogaeth i Bwyllgorau Hyfforddiant, Penodiadau, Awdurdodiadau a Gwerthusiadau - gan gynnwys delio gyda derbyn gwerthusiadau a cheisiadau a darparu cefnogaeth weinyddol i’r pwyllgorau ar draws Cymru.
Cefnogaeth Gyffredinol i’r Fainc - yn cynnwys anfon gohebiaeth at yr ynadaeth ledled Cymru a delio gydag ymatebion yn briodol.
Rota Ynadon - darparu cefnogaeth i’r timau ehangach i reoli gwaith beunyddiol rota’r ynadon ar draws Cymru.
Er y caiff deiliad y swydd ei leoli mewn swyddfa benodol, mae’n bosib y bydd angen bod yn hyblyg i weithio o bryd i’w gilydd yn swyddfeydd lleol eraill GLlTEF.
Wrth weithio fel rhan o dîm hyblyg, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd ag amrywiaeth o'r swyddogaethau a’r cyfrifoldebau a nodwyd. Nid yw’n fwriad i bob un o'r deiliaid swydd fod yn gyfrifol am yr holl ddyletswyddau.
Prif gyfrifoldebau
Gwaith Gweinyddol |
|
Drafftio |
|
Gweithrediadau |
|
Prosesu gwaith achos |
|
Gwirio a dilysu |
|
Casglu a threfnu gwybodaeth |
|
Cyfrifo |
|
Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, y farnwriaeth, defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill |
|
Dyletswyddau eraill
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan reolwr llinell sy'n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.
Sgiliau Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur. Sgiliau cyfrifiadurol perthnasol er mwyn gallu ymgymryd â’r gwaith.
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEF
Mae'r rôl hon yn rhan o'r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Gweithwyr proffesiynol cyflenwi gweithredol yw wyneb cyhoeddus y llywodraeth, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd mewn amrywiaeth o rolau. Maent yn gweithio mewn llawer o wahanol adrannau ac asiantaethau ledled y DU, gan ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn y meysydd canlynol:
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEF er enghraifft tywysydd llys
Rolau Canolfan Gyswllt yn GLlTEF er enghraifft cynghorwyr canolfannau galwadau
Rolau prosesu yn GLlTEF er enghraifft Staff yng Nghanolfan Hawliadau Arian y Llysoedd Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o'r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu perthyn i gymuned drawslywodraethol o bobl. Bydd hyn yn cynnig mynediad i chi at wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau i'ch helpu i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac ehangu eich opsiynau gyrfa.