Swydd Ddisgrifiad (SDd)   
Band 3  
Proffil Grŵp - Cyflawni Medrus 
(CM)   
    Swydd Ddisgrifiad -  
(SDd):  Arlwyo  
     
  
 
OR-JES-216-JD-B3 : CM: Arlwyo  
Cyfeirnod y Ddogfen  
Math o Ddogfen   
Rheoli  
Fersiwn  
6.0  
Dosbarthiad   
Annosbarthedig  
Dyddiad cyhoeddi  
25/09/15  
Statws  
Gwaelodlin    
 
Cynhyrchwyd gan  
Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd   
Awdurdodwyd gan   
Tîm Gwobrwyo 
Tystiolaeth ar gyfer y SDd  
  
  
  
  
  
  
OR-JES-216-JD-B3 : SD: Catering_v5.0  

  
Swydd Ddisgrifiad    
Teitl y Swydd  
CM:  Arlwyo  
Proffil Grŵp    
Cyflawni Medrus    
Lefel yn y Sefydliad   
Cyflawni   
Band  
3  
  
Trosolwg o’r swydd    
Mae hon yn swydd gyflawni o fewn sefydliad sy’n gofyn am sgiliau crefft priodol.    
Crynodeb   
Bydd deiliad y swydd yn arlwywr wrth ei grefft a bydd yn darparu gwasanaethau 
arlwyo i garcharorion o fewn y sefydliad gan ddefnyddio offer cysylltiedig mewn 
modd saff a diogel.   
  
Mae hon yn swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth linell.  
  
OR-JES-216-JD-B3 : SD: Catering_v5.0  

Cyfrifoldebau,  
Bydd  rhaid  i  ddeiliad  y  swydd  gyflawni’r  cyfrifoldebau,  y  gweithgareddau  a’r 
Gweithgareddau a 
dyletswyddau canlynol:  
Dyletswyddau    
•  Gweithio gyda charcharorion yn y ceginau, gan eu cynorthwyo i weithio mewn 
modd diogel ac effeithlon a sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal   
•  Paratoi a choginio bwyd, gan sicrhau defnydd effeithiol o gynhwysion i leihau 
gwastraff, darparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer dietau arbenigol ar sail credoau 
crefyddol a materion meddygol   
•  Paratoi archebion bwyd a nwyddau arlwyo eraill yn ôl y gofyn, i'w hawdurdodi gan 
reolwyr; gwirio unrhyw ddanfoniadau ar gyfer y gegin a sicrhau bod y stoc yn cael 
ei gylchdroi  
•  Cydlynu adnoddau, gan gynnwys bwyd, cynhwysion a niferoedd 
staff/carcharorion er mwyn darparu gofynion arlwyo o ddydd i ddydd y sefydliad   
•  Gweini bwyd yn y gegin neu'r ardaloedd plât poeth; ymweld ag ardaloedd preswyl 
i wirio safonau hylendid a’r arferion gweini bwyd yn ôl yr angen  
•  Danfon a chasglu bwyd gyda’r troli, a fydd efallai yn golygu defnyddio cerbyd 
cyflenwi    
•  Cyfrannu at yr adolygiad o ymarfer arlwyo yn y gegin yn gyson ar draws yr uned 
wrth gymhwyso polisïau a gweithdrefnau sy'n effeithio ar garcharorion a staff  
•  Sicrhau bod carcharorion yn cydymffurfio â pholisïau iechyd a diogelwch 
perthnasol wrth gyflawni dyletswyddau o fewn y gegin   
•  Cymryd rhan yn y broses o ddethol carcharorion ar gyfer dyletswyddau yn y gegin  
•  Cwblhau gwybodaeth monitro trefn a diweddaru cofnodion hyfforddi 
carcharorion  
•  Sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn cael eu cyfrif yn briodol a 
chofnodi gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio pan fo angen yn unol â'r 
Strategaeth Diogelwch Lleol a'r Fframwaith Diogelwch Cenedlaethol   
•  Helpu i ddarparu hyfforddiant i garcharorion    
•  Cynnal cysylltiadau rheolaidd drwy radio yn unol â'r Strategaeth Diogelwch Lleol 
(LSS).   
•  Cynnal gwiriadau offer yn rheolaidd yn unol â'r Strategaeth Diogelwch Lleol a’r 
Fframwaith Diogelwch Cenedlaethol    
•  Cydymffurfio â phob polisi a deddfwriaeth Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch   
•  Cynnal chwiliadau manwl a chwiliadau cyffredinol ar garcharorion yn unol â 
gofynion y rheolwyr  
•  Gweithredu mewn modd awdurdodol yn unol â chynlluniau wrth gefn lleol  
•  Agor a llenwi ffurflenni Asesiadau, Gofal yn y Carchar a Gwaith Tîm (ACCT), 
Adroddiadau Lleihau Digwyddiadau Trais (VRIR) ac Adroddiadau Gwybodaeth 
Diogelwch  
 
(SIRs) pan fo angen a chyfrannu i adroddiadau Cymhellion a Breintiau a Enillir (IEP)  
Sicrhau bod yr holl gofnodion monitro dyddiol sy'n cefnogi systemau a 
gweithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu cwblhau  
  
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o 
bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau 
rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os 
bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto 
dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.  
  
OR-JES-216-JD-B3 : SD: Catering_v5.0  

Cymwysterau Gofynnol    
•  Bydd gwiriadau diogelwch ac adnabod yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn 
iddynt gychwyn y swydd.   
• 
Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis.  Bydd 
rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi 
cwblhau cyfnod prawf i NOMS.  
•  Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei 
ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai.  
  
Sgiliau / 
Meddu  ar  Gymhwyster  Galwedigaethol  Lefel  3  neu  fod  yn  barod  i  weithio  tuag  at 
Cymwysterau/ 
ennill y cymhwyster hwn o fewn amserlen y cytunwyd arni.  
Achrediadau/ 
Cofrestriadau  

Rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar y cymwysterau hanfodol canlynol; tystysgrif lefel 2 
Hanfodol   
mewn  Cynhyrchu  Bwyd  o  fewn  Lletygarwch  ac  Arlwyo  neu  gyfatebol.    Yn  ogystal, 
mae'n rhaid iddynt feddu ar dystysgrif hylendid bwyd lefel 2, ac mae'n ofynnol iddynt 
fod  yn  gyfarwydd  â'r  holl  reoliadau  cyfredol  sy'n  ymwneud  â  iechyd,  diogelwch  a 
hylendid ar gyfer gweithio mewn cegin. Rhaid iddynt allu dangos cymhwysedd o fewn 
amgylchedd cegin ddiwydiannol. Dylid cwblhau hyfforddiant gloywi mewn Diogelwch 
Bwyd (HACCP) bob 3 blynedd.  
Y  gallu  i  gyflawni  pob  agwedd  lafar  o’r  rôl  yn  hyderus  drwy  gyfrwng  y  Saesneg  neu 
(pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.   
  
Oriau Gwaith a 
  
37 awr yr wythnos (safonol)  
Lwfansau   
Staff NOMS sydd ar strwythurau tâl caeedig:  
Oriau wedi’u Pennu Ychwanegol sy’n Bensiynadwy (ACHP)  
Bydd staff sy’n symud o strwythur tâl caeedig 39 awr yn gymwys i gael y ddwy awr 
ychwanegol sy’n bensiynadwy ac yn cael eu gwarchod (ACHP).   Byddant yn gweithio 
39  awr  yr  wythnos  fydd  yn  cynnwys  y  37  awr  yr  wythnos  safonol  a  2  awr  yn 
ychwanegol (ACHP) yn daladwy ar gyfradd amser cyffredin sy’n bensiynadwy.  
  
Bydd Gweithio Oriau Anghymdeithasol yn cael ei gadarnhau gan y Rheolwr Recriwtio 
a thelir amdano dim ond lle bo’n berthnasol:  
Oriau Gwaith Anghymdeithasol  
Fel rhan o’r rôl hon bydd gofyn i chi weithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd ac fe 
delir  17%  yn  ychwanegol  at  eich  tâl  sylfaenol  er  mwyn  cydnabod  hyn.    Oriau 
anghymdeithasol yw’r oriau hynny sydd y tu allan i 0700 - 1900 o’r gloch dydd Llun i 
ddydd Gwener ac mae'n cynnwys gweithio gyda’r nos, drwy’r nos, ar benwythnosau a 
gwyliau Banc / Cyhoeddus.  
 
 
  
  
OR-JES-216-JD-B3 : SD: Catering_v5.0