Descriptions & requirements
Disgrifiadau a gofynion
Disgrifiad swydd
Swydd eithriadol. Sy’n cael ei gwneud gan rywun fel chi.
Fel aelod o dîm cymorth y carchar bydd eich swydd yn amrywio ac yn helpu i gadw’r carchar i fynd. Mae hon yn rôl weithredol lle byddwch yn gwneud amrywiaeth o dasgau corfforol. Gall y rhain gynnwys codi a chario, yn ogystal â chyfnodau hir o sefyll a cherdded. Bydd cyfnodau hefyd o weithio ar eich pen eich hun wrth gyflawni tasgau ar shifftiau dydd a nos.
Ni fyddwch bob amser mewn cysylltiad â charcharorion, ac mae’n dibynnu ar y carchar rydych chi’n gweithio ynddo. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn a thîm cefnogol wrth eich ochr.
Cyfeiriad | HMP Berwyn, Wrexham Industrial Estate, Bridge Rd N, Wrexham LL13 9QE |
Cyflog | £29,432 |
Dinas / Tref | Wrexham |
Rhanbarth | Wales |
Nid yw’r rôl Gradd Cymorth Gweithredol yn denu Nawdd drwy’r fisa Gweithiwr Crefftus/fisa gwaith (cyffredinol) Haen 2
Teithio i’r Gwaith - Mae rhai sefydliadau carchar mewn lleoliadau gwledig sydd ag opsiynau cyfyngedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus, felly mae trwydded yrru a’ch cludiant eich hun yn fanteisiol ond nid yw’n un o ofynion hanfodol y rôl (oni nodir hynny*). Sylwch fod amseroedd dechrau a gorffen shifftiau yn sefydlog a’ch cyfrifoldeb chi yw cyrraedd eich man gwaith yn brydlon ar gyfer dechrau eich shifft. Ystyriwch leoliad y swydd wag hon yn ofalus a’ch opsiynau teithio.
Ni ddarperir llety.
Diwrnod gwaith Gradd Cymorth Gweithredol
Gall eich swydd gynnwys y pethau canlynol:
Dyletswyddau gât
sicrhau bod staff, ymwelwyr a cherbydau’n dod i mewn ac yn gadael yn ddiogel
chwilio staff, carcharorion, ymwelwyr a cherbydau
cerdded o amgylch safle’r carchar i hebrwng cerbydau a chontractwyr
dosbarthu a chasglu allweddi a setiau radio staff
cerdded o amgylch safle’r carchar yn patrolio ac yn chwilio’r ardaloedd wrth ymyl ffens y perimedr
Yr ystafell reoli
gweithredu system radio’r carchar
monitro teledu cylch cyfyng, gan sicrhau bod pob gweithgaredd amheus yn cael ei riportio
Ymweliadau
croesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd
eu tywys os oes angen
Gohebiaeth
monitro a chofnodi post sy’n dod i mewn i’r carchar
riportio unrhyw eitemau sydd wedi cael eu gwahardd, gan gadw tystiolaeth lle bo angen
Dyletswyddau nos
sicrhau bod drysau celloedd yn cael eu cloi/diogelu a bod pob carcharor yn ddiogel a bod cyfrif amdanynt
Y Dderbynfa
tynnu lluniau o garcharorion
prosesu parseli ac eiddo carcharorion sy'n dod i mewn i'r carchar
Goruchwylio carcharorion
goruchwylio carcharorion o dro i dro
cyfnewid dillad ac eiddo
helpu swyddogion carchar i hebrwng carcharorion o amgylch y carchar
Dosbarthu bwyd
cerdded o amgylch y carchar yn danfon ac yn casglu trolïau bwyd, neu ddefnyddio cerbyd dosbarthu trydan o bryd i’w gilydd
Dyletswyddau gyrru
casglu post o'r swyddfa ddidoli leol, a allai olygu codi sachau trwm
Galwadau ffôn
monitro system ffôn Rhif Adnabod Personol (PIN) y carchar
cadw cofnod o geisiadau ffôn PIN gan garcharorion
cwblhau cofnodion perthnasol
Gweithdrefnau a phrotocol
deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol, gan ymateb yn briodol i ddigwyddiadau ac argyfyngau
Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch ar gyfer y swydd hon. Mae helpu i sicrhau bod y carchar yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel yn gofyn am grebwyll, synnwyr cyffredin, cyfrifoldeb ac, yn anad dim, gwaith tîm.
Cenedlaethol - £29,432
Mae’r ffigurau cyflog a ddyfynnir ar gyfer wythnos waith 37 awr yn cynnwys lwfans gweithio oriau anghymdeithasol o 20% sydd wedi’i gynnwys yn y cyflog i adlewyrchu’r gofyniad i weithio shifftiau dros nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Yn ychwanegol at eich cyflog sylfaenol, byddwch yn derbyn:
25 diwrnod o wyliau blynyddol pan benodir chi, a bydd yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (cyfrifir ar sail pro-rata)
9 diwrnod o wyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint
mynediad at brentisiaeth Lefel 2 gyda thâl mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
mynediad at gynllun pensiwn hael y Gwasanaeth Sifil
benthyciadau tocyn tymor, gostyngiadau manwerthu, Rhaglen Cymorth i Weithwyr a chynllun Beicio i'r Gwaith.
Oriau
Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau nos, gyda’r nos, ar benwythnosau a gwyliau Banc/Cyhoeddus ar batrwm shifftiau treigl (mae’r diwrnodau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau). Bydd amlder y shifftiau nos yn amrywio ar gyfer pob Sefydliad a gellir ei drafod yn y cyfweliad. I gael enghraifft o amseroedd y shifftiau y gallech chi fod yn eu gweithio ewch i’n gwefan
Sut i wneud cais
Cam 1
Dweud wrthym amdanoch chi eich hun
Cliciwch ar y botwm ymgeisio a rhowch eich manylion personol ar ein ffurflen gaisSefyll prawf byr ar-lein
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau manwl ar sut i sefyll ein prawf ar-lein. Mae hwn yn asesiad sy’n seiliedig ar ymddygiad ac mae’n asesu a oes gennych chi’r cryfderau naturiol a’r dewisiadau ymddygiad priodol i weithio ar Radd Cymorth Gweithredol. Byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau bach sydd wedi’u llunio i ysgogi eich dewisiadau ymddygiad naturiol (e.e. sut rydych chi’n tueddu i wneud penderfyniadau yn naturiol). Er nad yw’r tasgau eu hunain wedi’u gosod yng nghyd-destun y rôl, maen nhw wedi’u llunio i arsylwi ar yr ymddygiadau sydd bwysicaf i’r rôl. Bydd hyn yn cymryd tua 40 munud i’w gwblhau, ond nid oes terfyn amser.
Does dim angen i chi fod yn chwaraewr gemau i wneud yn dda yn y prawf hwn. Rydyn ni’n chwilio am eich gallu naturiol i lwyddo yn y rôl.
Cam 2
Os byddwch yn pasio’r prawf, byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad.
Cyn i chi sefyll y prawf, cewch gyfle i ymarfer a pharatoi ar gyfer y prawf go iawn. Byddwch yn cael gwybodaeth a dolen i weld hwn a’r prawf ei hun ar ôl i chi wneud cais.
Bydd y cyfweliad yn un cyfunol sy’n cynnwys ymddygiadau a phrofiad. Bydd yn gyfle delfrydol i ddweud mwy wrthym amdanoch chi eich hun, eich hanes gwaith neu eich profiadau personol, er mwyn i ni ddod i’ch adnabod yn well ac asesu pa mor addas fyddwch chi ar gyfer gwaith carchar. Bydd eich Cryfderau’n cael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan
Cynnig swydd: swydd wag ‘teilyngdod’.
Swydd wag ‘teilyngdod’ yw hon. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.
Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r asesiad, bydd y carchar yn cynnig swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi’n dod ar gael.
Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus yn y cam didoli/cyfweld, bydd cyfnod aros o chwe mis yn cael ei roi ar waith. Yn ystod y cyfnod hwnnw ni fyddwch yn cael cyflwyno unrhyw geisiadau pellach am swyddi Gradd Cymorth Gweithredol.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru) neu yn Saesneg.
Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Rydyn ni’n recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol
I Shared Service Connected Ltd (0845 241 5358 (Llun-Gwener 8am - 6pm) neu drwy e-bost i Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com);
I Wasanaethau Adnoddau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (resourcing-services@justice.gov.uk);
I Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (mae’r manylion ar gael yma)
Cymorth Addasiadau Rhesymol
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac felly mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu dangos eu sgiliau, eu talent a'u galluoedd. Un o’r ffyrdd yr ydyn ni’n gwneud hyn yw cynnig cymorth addasiadau rhesymol i ymgeiswyr pan fyddant yn gwneud cais am un o’n swyddi.
Cyn cwblhau profion ar-lein neu fynd i gyfweliad, mae'n hanfodol trefnu cymorth addasiadau rhesymol. Oherwydd cyfyngiadau ymarferol a logistaidd, ni all ein haseswyr ddelio â cheisiadau ar y diwrnod. Felly, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen gwneud addasiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i chi pan fydd ei angen arnoch.
Mae hi’n hawdd gwneud cais am gymorth addasiadau rhesymol. Dewiswch ‘ydw’ ar y ffurflen gais pan fydd yn gofyn a ydych chi’n meddwl bod angen addasiad rhesymol arnoch chi.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, i gadw ac i fuddsoddi mewn talent ble bynnag mae’n cael ei chanfod. I ddysgu rhagor edrychwch ar Gynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil.
Manylion Ychwanegol
Trefniadau Gwaith a Rhagor o Wybodaeth
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig trefniadau Gweithio Hybrid pan fydd anghenion y busnes yn caniatáu hynny. Math anffurfiol o drefniant gweithio hyblyg yw hwn, nad yw’n gytundebol. Mae’n cyfuno gweithio o’ch lleoliad penodol, gwahanol safleoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a / neu gartref (cofiwch mai dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y swydd hon, ac nid dramor). Ni fydd rhai rolau’n addas ar gyfer Gweithio Hybrid. Yn yr un modd, ni fydd Gweithio Hybrid yn addas i amgylchiadau pawb. Bydd trefniadau’n cael eu trafod a’u pennu gyda’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Ar gyfer rolau sy’n cael eu hysbysebu’n genedlaethol, bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i leoliad un o swyddfeydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a allai gynnwys eu Canolfan Cydweithredu Cyfiawnder neu Swyddfa Lloeren Cyfiawnder agosaf. Bydd hyn yn cael ei drafod a’i benderfynu ar ôl cwblhau’r gwiriadau cyn cyflogi.
Mae rhai o delerau ac amodau gwasanaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn newid fel rhan o’r gwaith o ddiwygio’r Gwasanaeth Sifil. Bydd y newidiadau’n berthnasol i staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac sy’n newydd i’r Gwasanaeth Sifil. Bydd staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ôl gweithio i gyflogwyr eraill yn y gwasanaeth sifil yn trosglwyddo i delerau newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt eisoes ar delerau ‘wedi’u moderneiddio’ yn eu swydd bresennol, neu’n cael telerau ‘heb eu moderneiddio’ y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt ar delerau ‘heb eu moderneiddio’ yn eu swydd bresennol. Bydd manylion ar gael os cynigir y swydd.
Yr oriau gweithio amser llawn safonol yw 37 awr yr wythnos, heb gynnwys seibiannau sy’n ddi-dâl. Mae HMPPS yn croesawu patrymau gweithio rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd, pan fyddant yn diwallu gofynion y rôl ac anghenion y busnes. Bydd pob cais am batrymau gweithio rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio Hyblyg HMPPS.
Os ydych chi’n gweithio i’r NPS ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y swydd wag hon ar gael ar sail Benthyciad am hyd at 2 flynedd. Gwahoddir ceisiadau gan staff cymwys addas.
Mae’r Benthyciad/Secondiad yn amodol ar gymeradwyaeth Uned Busnes yr ymgeisydd sydd wedi'i ddewis, a dylid ei sicrhau cyn cadarnhau’r penodiad.
Sylwch, er bod tatŵs yn cael eu caniatáu, gan gynnwys y rheini mae modd eu gweld, rhaid iddynt beidio â bod yn rhai tramgwyddus, gwahaniaethol, treisgar neu fygythiol mewn unrhyw ffordd. Yn gyffredinol, nid yw tatŵs wyneb yn dderbyniol, ac eithrio pan fo hyn am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol.
Buddion
Gwyliau Blynyddol
Mae’r flwyddyn wyliau yn dechrau ar 1 Mawrth. Os nad oes gennych batrwm gwaith safonol, mae’n bosib y bydd eich hawl gwyliau yn cael ei chyfleu ar ffurf oriau neu ddiwrnodau, fel y bo’n briodol. Mae hawl gwyliau yn cael ei chyfrifo ar sail pro-rata, a byddwch yn cael gwybod faint yn union o wyliau sydd gennych chi wrth gael eich penodi. Os cawsoch chi eich penodi’n fewnol a bod eich gwyliau yn arfer cael ei gyfrifo ar ffurf diwrnodau, bydd yn dal i gael ei gyfrifo felly.
Gwyliau Banc, Gwyliau Cyhoeddus a Diwrnodau Braint
Mae gennych chi hawl i gael 9 diwrnod (66 awr a 36 munud) i gydnabod gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint. Bydd yr oriau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau blynyddol. Bydd gofyniad i chi weithio ar rai gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc, yn amodol ar eich patrwm shifftiau ac ar anghenion gweithredol y sefydliad.
Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o ddau gynllun pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn sy’n gweddu orau i chi.
Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
Mae Gwasanaeth Prawf a Charchardai EF yn awyddus i hybu trefniadau gwaith amgen. Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff weithio’n fwy hyblyg pryd bynnag y bydd rheolwyr a sefydliadau yn gallu derbyn ceisiadau i wneud hynny. Mae HMPPS yn cynnig amodau gwaith hyblyg, yn amodol ar gyflawni NVQ a chyfnod prawf boddhaol.
Blaendal Tocyn Tymor
Ar ôl dau fis o wasanaeth, byddwch yn gymwys i wneud cais am flaendal tocyn tymor i brynu tocyn tymor chwarterol neu am gyfnod hirach er mwyn teithio rhwng eich cartref a’ch man gwaith.
Talebau Gofal Plant
Ar gyfer unrhyw symudiadau ar draws y Gwasanaeth Sifil, mae’n bosibl y bydd goblygiadau i’ch gallu i barhau i hawlio talebau gofal plant.
Rhwydweithiau
Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr ac sydd wedi cael eu sefydlu i ddarparu cyngor a chefnogaeth ac i alluogi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol i gael ei mynegi’n uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, mae rhwydweithiau ar gael ar gyfer gweithwyr o leiafrifoedd ethnig, gweithwyr ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n fenywod, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Hyfforddiant
Mae HMPPS wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff ac mae’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n cynnwys meysydd fel Rhaglenni Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Delio ag Ymddygiad Heriol, Atal Hunanladdiad a Gwrth-Fwlio.
Mae cyfleoedd i ymuno â rhaglenni dyrchafiad, ac mae HMPPS yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi perthnasol ar gyfer swyddi unigol.
Mae'r holl staff yn cael hyfforddiant ar amrywiaeth a diogelwch ynghyd â rhaglen gynefino unigol wrth ddechrau ar eu rôl newydd.
Cymhwysedd
Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Dyddiadau cyfweliadau: I’w Cadarnhau
Dyddiad Cau: 22nd January 2026, 23:55 o’r gloch.
Manylion Cyswllt
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5358 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6pm) neu anfonwch e-bost at Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com. Dyfynnwch gyfeirnod y swydd - XXXXX
Rydyn ni wedi darparu manylion y camau asesu a’r meysydd sy’n cael eu hasesu i’ch helpu i baratoi ar gyfer llenwi eich ffurflen gais, ac i roi gwybod i chi beth fydd yn cael ei asesu yn dilyn hyn, os byddwch yn llwyddo i basio’r cam ymgeisio.
Dogfen ategol 1
Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v9.0.pdf
Proffiliau Llwyddiant
Bydd Proffiliau Llwyddiant yn galluogi dull recriwtio tecach a mwy cynhwysol drwy ein galluogi i asesu’r ystod o brofiadau, galluoedd, cryfderau, ymddygiadau a sgiliau technegol/proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi. Mae’r dull hyblyg hwn o recriwtio yn canolbwyntio mwy ar ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn ar gyfer y swydd benodol. I gael rhagor o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant i gefnogi eich cais cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad.
Rydyn ni wedi darparu manylion y camau asesu a’r meysydd sy’n cael eu hasesu i’ch helpu i baratoi ar gyfer llenwi eich ffurflen gais, ac i roi gwybod i chi beth fydd yn cael ei asesu yn dilyn hyn, os byddwch yn llwyddo i basio’r cam ymgeisio.
Asesiadau cam ffurflen gais
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir fel rhan o’ch cais, gan gynnwys eich CV, datganiad addasrwydd ac enghreifftiau o ymddygiad, yn wir ac yn ffeithiol gywir. Sylwch y gall llên-ladrad gynnwys cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu wybodaeth wedi’i chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, a honni mai eich syniadau a’ch profiadau chi ydynt.
Asesiadau cam cyfweld
Ceir 1 cam cyfweld ar gyfer y swydd hon.
Ymddygiadau
Cyfathrebu a Dylanwadu
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Gallai eich cryfderau gael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.
Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr
Mae’r cynllun i wneud y Gwasanaeth Sifil yn lle gwych i weithio i gyn-filwyr yn cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad. Mae’n caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i: https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans
Cynllun Cyfweliadau Adleoli
Mae disgwyl i adrannau’r Gwasanaeth Sifil archwilio cyfleoedd adleoli cyn dileu swydd unigolyn. Fel rhan o’r Cynllun Cyfweliadau Adleoli, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i’r rheini y mae perygl y bydd eu swydd yn cael ei dileu.
Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cyfweliadau Adleoli os ydynt yn gwneud cais am ddyrchafiad.
Mae’r swydd hon yn agored yn fras i’r grwpiau canlynol:
· dinasyddion y DU
· dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
· dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU
· dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) (yn agor mewn ffenestr newydd) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
· dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
· unigolion sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
· dinasyddion Twrci, a rhai aelodau teulu dinasyddion Twrci, sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Rhagor o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd (yn agor mewn ffenestr newydd) https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
Working Arrangements & Further Information
The MoJ offers Hybrid Working arrangements where business need allows. This is an informal, non-contractual form of flexible working that blends working from your base location, different MoJ sites and / or from home (please be aware that this role can only be worked in the UK and not overseas). Some roles will not be suitable for Hybrid Working. Similarly, Hybrid Working will not suit everyone’s circumstances. Arrangements will be discussed and agreed with the successful candidate(s) and subject to regular review.
For nationally advertised roles, the successful candidate(s) will be appointed to a MoJ office location, which may include their nearest Justice Collaboration Centre or Justice Satellite Office. This will be discussed and agreed on the completion of pre-employment checks.
Some of MoJ’s terms and conditions of service are changing as part of Civil Service reform. The changes will apply to staff joining MoJ who are new to the Civil Service. Staff joining MoJ from other civil service employers will transfer onto the new MoJ terms if they are already on 'modernised' terms in their current post or onto 'unmodernised' MoJ terms if they are on 'unmodernised' terms at their current post. Details will be available if an offer is made.
Standard full time working hours are 37 hours per week excluding breaks which are unpaid. HMPPS welcomes part-time, flexible, and job-sharing working patterns, where they meet the demands of the role and business needs. All applications for part-time, flexible, and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the HMPPS’ Flexible Working policy.
If you are a current NPS employee, this vacancy may be available on a Loan basis for up to 2 years. Applications are invited from suitable qualified staff.
The Loan/Secondment is subject to the approval of the selected candidate's Business Unit, which should be obtained before confirmation of appointment.
Please note that whilst tattoos are permitted, including those that are visible, they must not be deemed as offensive, discriminatory, violent or intimidating in any way. Facial tattoos are generally not acceptable, except where this is for cultural, religious, or medical reasons.
Benefits
Annual Leave
The holiday year runs from 1 March. If you work a nonstandard work pattern your leave entitlement may be expressed in either hours or days as appropriate. Leave entitlement is calculated on a pro-rata basis and you will be advised of your actual entitlement on appointment. If you were appointed internally and your leave was previously calculated in days, this will continue to be the case.
Bank, Public and Privilege Holidays
You are entitled to 9 days (66 hours 36 minutes) in recognition of bank, public and privilege holidays. These hours are added to your annual leave allowance. There is a requirement to work some public and bank holidays subject to your shift pattern and the operational needs of the establishment.
Pension
The Civil Service offers a choice of two pension schemes, giving you the flexibility to choose the pension that suits you best.
Work Life Balance
HM Prison & Probation Service (HMPPS) is keen to encourage alternative working arrangements. Work life balance provides greater opportunities for staff to work more flexibly wherever managers and establishments can accommodate requests to do so. HMPPS offers flexible working subject to completion of a satisfactory probationary period and NVQ.
Season Ticket Advance
After two months’ service, you will be eligible to apply for a season ticket advance to purchase a quarterly or longer-period season ticket for travel between home and your place of work
Childcare Vouchers
For any moves across the Civil Service may have implications on your ability to carry on claiming childcare vouchers
Networks
The opportunity to join employee-run networks that have been established to provide advice and support and to enable the views of employees from minority groups to be expressed direct to senior management. There are currently networks for employees of minority ethnic origin, employees with disabilities, employees with caring responsibilities, women employees, and lesbian, gay, bisexual and transgender.
Training
HMPPS is committed to staff development and offers a range of training and development opportunities, including areas such as Equality and Diversity, Dealing with Challenging Behaviour, Suicide Prevention and Anti Bullying Programmes
There are opportunities to access promotion programmes and HMPPS provides a variety of training appropriate to individual posts
All staff receive security and diversity training and an individual induction programme into their new roles
Eligibility
All candidates are subject to security and identity checks prior to taking up post.
All external candidates are subject to 6 months’ probation. Internal candidates are subject to probation if they have not already served a probationary period within HMPPS.
All staff are required to declare whether they are a member of a group or organisation which the HMPPS considers to be racist.
Interview dates: To Be Confirmed
Closing Date: 22nd January 2026, 23:55 hours.
We have provided detail of the assessment stages and areas being assessed to help you prepare for completing your application form, and to advise of what will be assessed following this, if you successfully pass the application stage.
Supporting document 1
Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v9.0.pdf
Success Profiles
Success Profiles will enable a fairer and more inclusive method of recruitment by enabling us to assess the range of experiences, abilities, strengths, behaviours and technical/professional skills required for different roles. This flexible approach to recruitment focuses more on finding the right candidate for the specific role. To find out more about Success Profiles to support your application please click here for further guidance.
We have provided detail of the assessment stages and areas being assessed to help you prepare for completing your application form, and to advise of what will be assessed following this, if you successfully pass the application stage.
Application form stage assessments
Use of Artificial Intelligence (AI)
You must ensure that any evidence submitted as part of your application, including your CV, statement of suitability and behaviour examples, are truthful and factually accurate. Please note that plagiarism can include presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own.
Interview stage assessments
There is 1 interview stage for this vacancy.
Behaviours
Communicating and Influencing
Managing a Quality Service
Strengths may also be assessed at interview but these are not shared in advance.
A Great Place to Work for Veterans
The "Making the Civil Service a Great Place to work for veterans" initiative includes a guaranteed interview scheme to those who meet the minimum criteria to provide eligible former members of the Armed Forces with opportunities to secure rewarding jobs. Allowing veterans to continue to serve their country, and to bring highly skilled individuals with a broad range of experience into the Civil Service in an environment, which recognises and values your previous service in the Armed Forces.
For further details about the initiative and eligibility requirements visit : https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans
Redeployment Interview Scheme
Civil Service departments are expected to explore redeployment opportunities before making an individual redundant. The MoJ are committed, as part of the Redeployment Interview Scheme, to providing opportunities to those who are 'at risk of redundancy'.
MoJ are able to offer an interview to eligible candidates who meet the minimum selection criteria, except in a limited number of campaigns. Candidate's will not be eligible for the Redeployment Interview Scheme if they are applying on promotion.
This job is broadly open to the following groups:
· UK nationals
· nationals of the Republic of Ireland
· nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
· nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
· nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
· individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
· Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window) https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
In addition you will receive 20% unsocial working allowance. This has been included in the salary figures quoted.
If you require any assistance please call 0345 241 5358 (Monday to Friday 8am - 6pm) or e mail MoJ-recruitment-vetting-enquiries@resourcing.soprasteria.co.uk. Please quote the job reference 13395
Use of Artificial Intelligence (AI)
Artificial Intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance for more information on appropriate and inappropriate use.
Job Description Attachment
-
CY Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v8.0.docx (Job Description Attachment)
-
CY Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v8.0.docx (Job Description Attachment)